Ein gwaith yng Nghymru

Mae ein gweithgareddau yng Nghymru yn fwy cyfyng na’r hyn a welir yn Lloegr , gan fod Arolygaeth Gofal Iechyd Cymru yn arolygu ac yn ymchwilio i ofal iechyd yng Nghymru. Serch hynny, rydym yn cyd-weithio’n agos gyda HIW a sefydliadau cysylltiol eraill, megis Arolygaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Arolygaeth Safonau Gofal Cymru.

Ein gweithgareddau o ran Cymru

  • Ein hadroddiad blynyddol ynghylch y sefyllfa gofal iechyd , sydd yn berthnasol i Gymru a Lloegr, a gyflwynir i D?'r Cyffredin. .
  • Adolygiadau o fathau penodol o wasanaethau gofal iechyd sy'n cynnwys Cymru .
  • Adolygu ansawdd data ymchwilwyr ynghylch gofal iechyd y GIC yng Nghymru.
  • Bydd pob un o'n hadroddiadau sy'n berthnasol o ran Cymru yn cael eu cynhyrchu yn y Gymraeg a'r Saesneg yn unol â'n Cynllun Iaith Gymraeg

Concordat ar gyfer Cymru

Mae'r Comisiwn Gofal Iechyd ymhlith y llofnodwyr ar goncordat rhwng deg sefydliad sy'n ymwneud â'r gwaith o reoleiddio iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'r concordat hwn yn cynnwys egwyddorion ac arferion er mwyn gwella iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer cleifion a lleihau dylanwad y broses reoleiddiol ar y sefydliadau sy'n darparu'r gwasanaethau. Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y dolenni isod: